… gan Gruffudd ab Owain
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’n bleser gen i roi rhestr at ei gilydd o’r artistiaid ifanc y dylech eu gwylio yn ystod 2024.
Mi fuodd 2023 yn flwyddyn lewyrchus iawn i artistiaid newydd, yn enwedig y rhai iau, ac mi gawsom ni gyfle i edrych yn ôl ar eu llwyddiant mewn erthygl ddiweddar.
Allwn ni ond gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod lawn cystal i’r to newydd o artistiaid ar lwyfannau’n gwyliau ac wrth ryddhau eu cynnyrch.
Felly dyma drosolwg o rai o’r grwpiau ac artistiaid unigol i gadw golwg arnyn nhw yn 2024; rhai ohonyn nhw yn eu dechreuadau cynnar, ac eraill eisoes wedi gwneud eu marc ar y sîn.
Gelert
Mae’r band ifanc, Gelert, wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn barod yn ystod 2023, a hwythau wedi rhyddhau tair sengl. Glaniodd ‘Gair ar Flaen dy Dafod’ ym mis Mawrth, ac ers hynny, mae ‘Baneri’ a ‘Sgidie Mawr i’w Llenwi’ hefyd wedi cael eu rhyddhau.
Maen nhw hefyd wedi cael profiad gigio’n helaeth ar draws y flwyddyn, ac yn barod i barhau i greu argraff yn y flwyddyn newydd.
Wrth gyflwyno’r band, dywedodd Mefin: “Ni’n fand ifanc o Sir Benfro sy’n mwynhau cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth. Pedwar o’ ni sydd yn y grŵp; fi sy’n canu a chwar’e gitar, Meiddyn sy’ ar prif gitar, Yori ar y bas a Sam ar y drwms.
“Fydde ni’n dweud fod ni yn fand roc/pop sy’n hoffi cyfuno geiriau clyfar gyda alawon catchy. Ein prif dylanwadau yw Ail Symudiad, Meic Stevens ac Edward H Dafis,” meddai.
“Yn ogystal â chael ysbrydoliaeth wrth fandiau eraill ni’n cael llawer o syniadau wrth ein ardal lleol a phrydferthwch byd natur yma yng ngogledd Sir Benfro. Y flwyddyn yma hoffen ni fel band rhyddhau llawer mwy o gerddoriaeth gwreiddiol – falle albwm bach, pwy a ŵyr – a chael gigs dros y wlad gyfan.”
Buddug
Bydd Buddug eisoes yn enw cyfarwydd, a hithau wedi creu cryn argraff wrth ryddhau ‘Dal Dig’ ar Recordiau Côsh ganol mis Tachwedd, sydd wedi ennyn tipyn o boblogrwydd mewn cyfnod byr o amser. Daeth y cyfle cyntaf i glywed y gân ar wefan Y Selar.
Daw’r cerddor 17 oed o Frynrefail, ac mae hi wedi bod yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun ers tro bellach. Bu’n datblygu ei thalent gyda chymorth Alys Williams yn ogystal.
Dywedodd wrtha’i: “Dwi’n gweld cyfansoddi caneuon yn hynod o therapiwtig. Dwi’n dueddol o droi at biano, neu gitâr, a throi nheimlada’ fewn i gân; dyna pam dwi’n gweld geiriau mor bwysig â’r diwn. Ma’ cerddoriaeth i mi yn ffordd o fynegi’n hun drwy sôn am brofiadau personol, neu drwy gyfeirio at bobl eraill.
“Mae Dal Dig yn enghraifft o hyn. Mae’r gân yn dod o bersbectif allanol o weld rhywun yn stryglo’n feddyliol, a’r rhwystredigaeth o beidio gwybod sut i helpu,” meddai.
“Yn 2024, dwi’n edrych ymlaen i ryddhau mwy o ganeuon. Mae gena’i gân Saesneg yn dod allan yn fuan, a chân Gymraeg ar fin cael ei recordio. ’Swn i hefyd wrth fy modd yn dechrau gigio dros y flwyddyn.”
TewTewTennau
Prin bod angen cyflwyno TewTewTennau erbyn hyn, ar ôl iddyn nhw greu tipyn o argraff yn y flwyddyn a fu. Yr uchafbwynt, mae’n debyg, oedd cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau a chael perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd y pedwarawd – Eban, Ianto, Hari a Tom – eisoes yn perfformio a chyfansoddi cyn cael cyfle i fod yn rhan o’r gystadleuaeth, ac ers y llwyddiant hwnnw yn yr haf, maen nhw wedi bod yn brysur yn perfformio ledled y gogledd a thu hwnt, ac yn recordio ambell i gân yn y stiwdio.
Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud wrth ddisgrifio’u sain ar gyfer eitem Newydd ar y Sîn rhifyn haf cylchgrawn Y Selar…
“’Da ni gyd yn hoff o gerddoriaeth amrywiol a ’da ni’n credu fod hynny’n dod drosodd yn ein cerddoriaeth. Mae’n debygol mai’r elfennau sy’n ymddangos fwyaf yw roc, rap a reggae.
“Mae ‘na lawer o artistiaid wedi dylanwadu ar ein cerddoriaeth, o Eminem i Angus Young i Bob Marley. Yr hyn sy’n ein gyrru ni ymlaen fel band yw’r profiad ’da ni’n gael o berfformio a gweld yr ymateb bositif ’da ni wedi’i dderbyn hyd yn hyn.
“Y nod, yn fwy na dim, yw creu cerddoriaeth unigryw a ffres sy’n mynd i apelio at gynulleidfa eang, a gadael ein marc ar y sîn roc Gymraeg.”
Gwenu
A hwythau wedi cychwyn cyfansoddi a pherfformio am ychydig cyn hynny, daeth Gwenu i’r amlwg wedi iddyn nhw lwyddo i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref i fandiau ac artistiaid unigol yn Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri llynedd.
Mae’r grŵp o bedair o ferched sy’n dod o ardal Casnewydd wedi cael tipyn o brofiad perfformio yn 2023, yn cefnogi bandiau megis Mellt a Breichiau Hir, ac yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach.
Machlud
Band o’r gogledd orllewin ydy Machlud, sydd eisoes wedi cael blas ar berfformio mewn gigs yn ddiweddar, gan gynnwys digwyddiad Beacons Cymru yn Pontio, Bangor, lle’r oedd Gwilym a Tesni Hughes hefyd wrthi.
Mae modd cael blas o ambell fersiwn cyfyr ar eu tudalen Instagram.
Anhunedd
Un o fandiau ifanc newydd y sîn yn y brifddinas yw Anhunedd, sydd wedi elwa o allu perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ambell waith yn ddiweddar, ac yn Tafwyl.
Maen nhw’n disgrifio’u hunain fel band roc, ac yn gaddo bod mwy ar y ffordd ganddynt.
Dagrau Tân
Mae’r grŵp indie o Fro Morgannwg, Dagrau Tân, wedi dangos cryn addewid er eu bod nhw’n dal i fod yn ddisgyblion ysgol, a hwythau hefyd yn elwa o’r gallu i berfformio yng Nghlwb Ifor, Gŵyl Fach y Fro a digwyddiadau eraill yng nghyffiniau’r brifddinas. Mae modd cael blas o’u caneuon ar eu tudalennau Instagram ac YouTube.
*
Ac felly dyna ni, gwibdaith heibio i ambell artist ifanc y dylid cadw golwg arnyn nhw yn ystod 2024 – cofiwch ei bod hi’n haws nag erioed i’w cefnogi drwy’r cyfryngau cymdeithasol, platfformau ffrydio ar ben y digwyddiadau byw wrth gwrs.
Mae curadu’r rhestr hon eto eleni wedi rhoi ffydd ynof i fod dyfodol y sîn gerddoriaeth yn ddiogel iawn yn nwylo’r rhain, a hwythau oll yn cyfrannu at ei hamrywiaeth a’i ffyniant.