‘Bae’ – Sengl Newydd Yws Gwynedd

Mae Yws Gwynedd wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf sydd ar gael i’w ffrydio ar y llwyfannu digidol arferol nawr. 

‘Bae’ ydy enw’r trac newydd gan Yws sydd allan ar el label ei hun, Recordiau Côsh, ers dydd Gwener 31 Mai.  

Mae’r sengl newydd yn addo i fod yn drac sain yr haf, gyda’i rhythm dawns heintus a’i naws heulog. 

Wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn, Rich James Roberts, sydd hefyd yn drymio i’r band, mae’r trac yn enghraifft arbennig o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae balafon N’famady Kouyaté hefyd yn ymddangos ar y trac, sef sengl gyntaf y band ers mis Awst y llynedd.

Gall gwrandawyr ffyddlon ddisgwyl tapestri cyfoethog o sain sydd hefyd yn cyhoeddi’r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set lawn o draciau, wedi’i recordio dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Bydd albwm newydd Yws Gwynedd yn glanio cyn diwedd y flwyddyn. 

Mae fideo, sydd wedi’i gynhyrchu gan raglen Lŵp S4C, wedi cael ei rhyddhau ar y cyd â’r sengl ac mae’n cynnig gwledd weledol sy’n serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones. Aled Wyn Jones sydd wedi cynhyrchu a chyfarwyddo’r fideo. 

Mae digon o gyfleoedd i weld Yws Gwynedd a’i fand yn perfformio’n fyw dros yr wythnosau nesaf gyda chyfres o gigs wedi’u trefnu ar gyfer yr haf. 

Gigs haf 2024 Yws Gwynedd

01 Mehefin – Bull, Llannerchymedd

08 Mehefin – Madryn, Chwilog

22 Mehefin – Roc y Ddôl, Bethesda

29 Mehefin – Mish Mash Mehefin, Bethel

13 Gorffennaf – Tafwyl, Caerdydd

04 Awst – I’w Gyhoeddi / TBA

07 Awst – Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd

24 Awst – Oakeleyfest, Maentwrog

14 Awst – Plu, Llanystymdwy

Dyma fideo ‘Bae’: