Blas cyntaf o EP newydd Mari Mathias

Mae’r canwr-gyfansoddwr gwerin, Mari Mathias, wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n flas cyntaf o’i EP newydd. 

‘Pan O’wn y Gwanwyn’, ydy enw’r cynnyrch diweddaraf gan Mari sydd allan drwy ei label annibynnol newydd, Recordiau TARAN Records. 

Hwn yw’r cyntaf o bedwar trac fydd yn ymddangos ar ei EP cydweithredol newydd, ‘Awen’, fydd yn dilyn yn y Gwanwyn. 

“‘Pan O’wn y Gwanwyn’ fydd sengl gyntaf oddi ar EP ‘Awen’” eglura Mari.  

“Mae’n addasiad gwreiddiol o’r gân werin draddodiadol, gydag alaw ganoloesol arswydus sy’n cyfleu hanfod y Gwanwyn, tymor myfyriol i natur a hunan. 

“Mae’r trac cydweithredol cyntaf hwn o’r EP yn cynnwys harmonïau lleisiol cyfoethog, tonau cyfriniol y ffliwt, synau brawychus y Tagelhrapa, gitâr rythmig ac offerynnau taro.”

Yn drac sain i diroedd gwledig Celtaidd Cymru, mae ‘Pan O’wn y Gwanwyn’ yn eich cludo i fryniau hardd, coetiroedd pell ac arfordiroedd syfrdanol, lle mae holl ryfeddodau natur yn byw. 

Gydag Angharad Iris ac Evie Rey yn cyfrannu ar y ffliwt a’r lleisiau cefndirol, cafodd y trac ei gynhyrchu gan Sam Durrant yn Stiwdio Un, Gogledd Cymru.