Blwyddlyfr Y Selar yn bwrw golwg nôl ar 2023

Mae cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi argraffu eu ‘Blwyddlyfr’ cerddorol diwethaf, ac mae hwn wrthi’n cael ei ddosbarthu i aelodau Clwb Selar nawr. 

Dyma’r trydydd tro i’r Selar gyhoeddi blwyddlyfr, sy’n gofnod defnyddiol o’r flwyddyn a fu yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Mae’r blwyddlyfr yn cynnwys pigion o erthyglau newyddion cerddoriaeth o bob mis o’r flwyddyn ddiwethaf (2023) ynghyd â detholiad o erthyglau estynedig sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Y Selar, ac yn y cylchgrawn dros y flwyddyn honno. 

“Mae ‘na rywbeth bach eitha’ retro am y syniad o flwyddlyfr cerddoriaeth dwi’n cyfaddef” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Ond dwi’n credu ei fod o’n gip yn ôl, ac yn gofnod pwysig o flwyddyn yn hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg. Mae aelodau Clwb Selar yn tueddu i fod yn bobl sydd â diddordeb mawr yn yr hyn sy’n digwydd yn y sin, felly dwi’n gweld y blwyddlyfrau fel rhywbeth y gallan nhw gadw ar y bwrdd coffi, neu wrth ochr y gwely a phori trwyddyn nhw o dro i dro er mwyn cofio beth ddigwyddodd mewn cyfnodau penodol.” 

Nifer cyfyngedig o gopïau print o’r blwyddlyfr sy’n cael eu hargraffu, gyda’r mwyafrif yn cael eu postio’n syth i aelodau premiwm Clwb Selar. 

“Dim ond 90 copi o Flwyddlyfr 2023 sydd wedi eu hargraffu, ac mae rhain yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar sy’n cefnogi gwaith Y Selar, ac sy’n derbyn rhoddion yn ystod y flwyddyn am wneud hynny. Bydd ambell gopi dros ben i bobl sy’n ymaelodi o’r newydd, ond cyntaf i’r felin fydd hi felly os ydy unrhyw un isio copi o’r blwyddlyfr yna peidiwch oedi cyn ymaelodi ar wefan Y Selar.” 

Gallwch fachu copi o flwyddlyfr Y Selar 2023 trwy ymaelodi gydag un o haenau uwch Clwb Selar (Basydd, Gitarydd Blaen, Canwr, Rheolwr)