‘Breuddwyd Brau’ – Sengl ddiweddaraf Melda Lois

Mae’r artist addawol o ardal Y Bala, Melda Lois, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, sef ‘Breuddwyd Brau’. 

Dyma ydy enw’r drydedd sengl i’w rhyddhau gan Melda Lois ar label Recordiau I KA CHING. 

Daw’r sengl ddiweddaraf fel dilyniant i ‘Bonne Nuit Ma Chérie’ a ‘Tofino’ sydd eisoes wedi eu rhyddhau, ac mae’n rhagflas o’r EP fydd yn cael ei ryddhau ar 3 Mai. Bydd yr EP hwnnw allan yn ddigidol ar safle Bandcamp yn unig i ddechrau. 

Mae sengl ddiweddaraf Lois yn cyfuno ei dylanwadau creadigol ond hefyd y rhai gwyddonol sy’n dod o fod wedi astudio seicoleg am sawl blwyddyn.  

Cydnabod natur brau atgofion

“Ma’ ‘Breuddwyd Brau’ am alar, hiraeth a’r cof” eglura Melda.  

“Ma’r syniad bod pobl yn dal yn fyw yn y cof yn un sy’n rhoi lot o gysur wrth alaru. Ond eto, ma’ atgofion yn bethau mor fregus, sy’n agored iawn i gael eu newid bob tro ‘da ni’n ail-ymweld â nhw. Ma’ gwirionedd atgofion felly’n breuo wrth i ni dreulio mwy o amser hefo nhw. 

Dwi’n ffeindio’n hun yn aml yn sbïo nôl a’n hiraethu am atgofion melys hefo’r bobl dwi wedi eu colli. Ar un llaw, ma’r gân yn cyfleu’r cysur sy’n dod o wneud hynny, a’r teimlad o fod yn ddiolchgar o allu teimlo’n agos at y bobl sydd ddim hefo ni bellach.

“Ond ar y llaw arall, ma’r gân yn cydnabod natur brau ein hatgofion ni, a sut ma’r cysur hynny yn aml yn dod o atgofion sy’ falle ddim cweit yn cyfleu’r gorffennol yn union fel oedd o.” 

Gwaith celf

Mae Lois wedi dewis arddangos gwaith cwilt Mirain Alaw Jones, neu Medr Mir, unwaith eto ar gyfer clawr y sengl. 

“Golygfa o’r Aran Benllyn o Lyn Tegid sy’ wedi ei gwiltio tu ôl i fi ar y clawr” meddai. 

“Ma’ bod adre bob tro’n fy ngwneud i’n fwy hiraethus am y gorffennol. Mi oedd defnyddio golygfa sy’n gysylltiedig iawn hefo ‘adre’ i fi, ond mewn ffordd haenog sy’n gwneud y ffiniau’n fwy aneglur, yn teimlo fel ffordd dda o gyfleu’r syniad tu ôl i’r gân.”

Magwyd Lois yng Nghwm Croes ger Llanuwchllyn, ac mae wedi creu dipyn o enw iddi ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth gigio’n gyson ar hyd a lled y wlad. Daeth i amlygrwydd wedi i ddwy o’i chaneuon gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru, 2021.

Llynedd, roedd yn un o artistiaid Cronfa Lansio BBC Gorwelion yn 2023, bu ar restr fer Artist Newydd Gwobrau’r Selar, ac aeth ymysg y pedwar olaf ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.