Bubblewrap yn gwerthu ‘test pressings’ i gefnogi Gaza

Mae label recordiau Bubblewrap wedi penderfynu dangos eu cefnogaeth i bobl Gaza trwy werthu llwyth o gopïau ‘test pressing’ o’u recordiau feinyl sydd wedi bod yn eistedd yn y storfa.

Test pressings ydy’r copïau ‘prawf’ o recordiau feinyl mae labeli yn eu derbyn i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn cyn i’r fersiynau terfynol gael eu gwasgu.

Mae’r copïau prawf hyn yn gallu bod yn gasgladwy iawn ymysg cefnogwyr artistiaid. Ymysg y recordiau sy’n cael eu gwerthu fel rhan o’r ymgyrch gan Bubblewrap mae rhai gan Georgia Ruth, The Gentle Good, Carwyn Ellis, Ahgeebe, HMS Morris a mwy.

Yn ôl y label bydd unrhyw arian o werthiant yn cael ei roi i Mèdecins Sans Frontières (Doctoriaid Heb Ffiniau).

Mae modd prynu’r recordiau ar wefan Bubblewrap nawr.