Mae’r artist newydd, Buddug, yn ôl gyda thrac arbennig arall sy’n dangos aeddfedrwydd y tu hwnt i’w blynyddoedd.
Mae ‘Two Way Street’ yn drac tywyll a theimladwy sy’n arddangos llais rhagorol Buddug, tra hefyd yn ein syfrdanu gyda gallu’r gantores 17 oed i gyfansoddi caneuon.
Daeth Buddug i’r amlwg gyntaf ym mis Tachwedd 2023 gyda’i sengl ‘Dal Dig’ a ryddhawyd ar label Recordiau Côsh. Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar ychydig cyn y dyddiad rhyddhau ar 17 Tachwedd.
A hithau wrthi’n astudio ei lefel A yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, dychwelodd Buddug i’r stiwdio ym mis Ionawr, yn dilyn llwyddiant ei sengl gyntaf.
O dan arweiniad y cynhyrchydd profiadol, Rich Roberts, mae Buddug eisoes wedi datblygu arddull sy’n gyfarwydd, ond sydd eto’n chwa o awyr iach i’r sin yng Nghymru.