‘Canned Laughter’ – sengl newydd SYBS

Mae’r SYBS, sef y band pync o Gaerdydd, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. 

‘Canned Laughter’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ganddynt ar label Recordiau Libertino.  

Hod ydy’r gân gyntaf a ysgrifennwyd ar y cyd rhwng gitarydd SYBS, Kieran Macdonald-Brown, a’r canwr/gitarydd, Osian Llŷr. 

Mae’n drac arwyddocaol yn ogystal gan mai dyma ydy sengl ddwyieithog gyntaf y band, ac mae hefyd mynd a ni gam yn nes at albwm cyntaf SYBS, fydd allan cyn diwedd y flwyddyn. 

Yn drac sydd â dylanwadau sy’n ymestyn o bossa nova i pync, mae ‘Canned Laughter’ yn dwyn ysbrydoliaeth gan bobl fel Mark E Smith (The Fall) a Dave Datblygu.    

“Yn y bôn, ‘Canned Chwerthin’ ydy fi’n trio ’sgwennu cân SYBS ar ôl cael fy nylanwadu’n fawr gan arddull ’sgwennu Osian” eglura Kieran am y sengl. 

“Ysgrifennais y riff yn gyntaf cyn gwneud rhyw fath o demo sydyn yn ystod y pandemig. Er hynny, ddo’th y gân ’mond at ei gilydd ar ôl i ni gyd ddod at ein gilydd yn y stiwdio yn Hounslow, ger Llundain, i recordio’r albwm. Yn fano, penderfynom y byddai’r trac yn gweithio’n dda yn ddwyieithog.”

Mae Osian wedi dwyn ar brofiadau personol pan ddaw at ei gyfraniad yntau i’r gwaith cyfansoddi.

“Yn delynegol, roeddwn i eisiau ’sgwennu cân a oedd yn seiliedig ar fy mhrofiad i o weithio mewn swyddfa” meddai’r ffryntman. 

“Mae’n dilyn cymeriad unig sydd wedi llwyr colli diddordeb a’u gwaith 9-5 ac yna’n cwestiynu pa mor annheg yw gweld pobl eraill sy’n byw bywydau tebyg ond yn hapus ynddyn nhw ei hunain.”