Mae’r prosiect pync amgen o Fangor, Crinc, wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 26 Ionawr.
‘Crachach’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan ar label Recordiau Noddfa.
Y cerddor ac artist enigmatig, Llŷr Alun ydy ffryntman Crinc, ac mae ‘Crachach’ yn dod o albwm y band, ‘Gig Cymreig’, a ryddhawyd ar Noddfa nôl ym Mis Medi 2023.
“Neshi ’sgwennu’r gân yn ganol lockdown yn Bangor a recordio’r demo i albwm ‘Cofi-19’” meddai Llŷr Alun.
“Oni’m yn licio’r final product gyda electric drum kit o GarageBand felly nath’ ni ail recordio yn y Buarth, yn fyw gyda Dafydd Ieuan ag Kris Jenkins, ar ôl fi symud i Gaerdydd.”
Mae’r sengl yn cael ei ryddhau mewn ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd a bydd unrhyw elw yn mynd tuag at achos UNICEF.