Mae’r Asiantaeth Hawliau Darlledu cerddoriaeth, Eos, wedi agor ceisiadau ar gyfer eu Cronfa Nawdd eleni.
Mae Cronfa Nawdd Eos yn cefnogi cynlluniau cyffrous fydd yn ysbrydoli cerddorion, cyfansoddwyr, artistiaid, hyrwyddwyr, trefnwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gyfrannu i’r diwydiant cerdd. Maent yn gwahodd ceisiadau am hyd at £1000.
Mae’r ffurflen gais ar gyfer y gronfa ar wefan Eos, gyda’r dyddiad cau ar 8 Mai.