Wythnos diwethaf fe wnaethon ni gyhoeddi darn arbennig yn cyflwyno’r band newydd cyffrous ‘Y Nos’ i chi.
Prosiect synthwave electronig y cerddor Aled Mills ydy Y Nos, ac mae’n brosiect digon unigryw yn y Gymraeg. Er mai prosiect unigol Aled ydy hwn, mae wedi mynd ati i greu band graffeg i fod yn wyneb ar gyfer y prosiect.
Neon yn y Nen ydy enw’r record hir gyntaf gan Y Nos sydd allan ers wythnos diwethaf, ac mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo arbennig sydd wedi’i greu i gyd-fynd ag un o’r traciau, sef ‘Troi’.
Ma hwn yn wych! Mwynhewch: