Cyflwyno BERIAN – artist electro newydd

Mae artist electronig newydd o Ogledd Cymru, BERIAN, yn paratoi i ryddhau ei sengl gyntaf ddiwedd mis Mai. 

‘DSD’ ydy enw’r trac newydd fydd yn cael ei ryddhau ar 24 Mai ar label UNTRO. 

 Gan gyfuno “sŵn signature garage gyda sound design atmosfferig, cynnes”, mae ‘DSD’ yn nodi cam cyntaf Berian Rhys yn y byd electronig. 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ar swm enfawr o draciau, ac er na fyddai’r mwyafrif ohonynt yn gweld golau dydd, mae’r oriau o weithio ar fy sŵn wedi sefydlu sylfaen cadarn i mi fel artist,” meddai’r cynhyrchydd ugain oed o ardal Nefyn.  

Bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae trac cyntaf BERIAN yn tynnu ar ddylanwadau cynhyrchwyr fel Main Phase, DJ Crisps a Joe Duala — synau mae’n gobeithio gallu efelychu a chyfleu mewn arddull ei hun. 

“Rwy’n gweld ‘DSD’ fel yr hadyn cyntaf i roi marc fy hun ar y sin a gwthio swn electroneg yma’n Nghymru” ychwanega Berian.

“Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac mewn setiau byw a sut fydd y trac yn cael ei groesawu. Y cam nesaf yw cadw’r momentwm a gweithio ar y traciau nesaf sydd i ddod.”

Yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr Aled Victor ar fideo fydd yn cyd-fynd â’r trac, mae gwaith celf y sengl, yn ogystal â’r trac-deitl, yn cyfeirio at gapten llong chwedlonol o ardal Pwllheli. 

“Ar gyfer y celf, oni awydd ail greu’r hoel print llaw sydd ar y wal tu allan i tŷ” eglura Berian.  

“Mae’r llythrennau ‘DSD’, sydd wedi’i nadu ar y garddwn, yn cyfeirio at David Seaborne Davies sef capten llong gafodd ei eni ar y môr ger Nefyn yn 1869. Ei rieni o adeiladodd y tŷ ac felly mae’n teimlo’n spesial gallu cynnwys elfen mor bersonol ar gyfer fy release cyntaf fel artist.”

Bydd ‘DSD’ allan ar UNTRO ddydd Gwener 24 Mai, gyda’r fideo i’w ddangos yng Nghanolfan Gelfyddydol Chapter wythnos yn ddiweddarach, cyn ymddangos ar-lein ar wefan Klust.