Mae Gŵyl Crug Mawr a gynhelir ger Aberteifi wedi dechrau cyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn perfformio yno fis Awst.
Dim ond wythnos diwethaf y datgelodd y trefnwyr y byddai’r ŵyl yn dychwelyd ar ôl sawl blwyddyn o saib.
Nawr maent wedi dechrau cyhoeddi manylion yr artistiaid sydd i berfformio yn yr ŵyl sef Mellt, HMS Morris ac Adwaith – bydd mwy o enwau’n dilyn yn fuan meddent.
Cynhaliwyd Gŵyl Crug Mawr yn wreiddiol yn Nhir Oernant, ger Aberteifi rhyw ddegawd yn ôl.
Ni chynhaliwyd y digwyddiad ers sawl blwyddyn bellach, ond mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn cael ei atgyfodi ar nos Wener 23 a nos Sadwrn 24 Awst eleni.