Cyhoeddi fideo sengl ddiweddaraf Georgia Ruth

Mae Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Georgia Ruth. 

‘Duw Neu Magic’ ydy enw’r sengl newydd a ryddhawyd ar 19 Ebrill, a dyma’r ail sengl gan yr artist o Aberystwyth fel rhagflas o’i halbwm nesaf, ‘Cool Head’.

Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Dafydd Hughes a Georgia Ruth ei hun ac i’w weld ar lwyfannau digidol arferol Lŵp.