Cyhoeddi leinyp Tafwyl 2024

Mae Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid fydd yn perfformio yno eleni.

Cynhelir yr ŵyl ym Mharc Bute ar benwythnos 13-14 Gorffennaf eleni.

Y prif enwau sy’n perfformio y tro hwn ydy Edan, Fleur De Lys, Al Lewis, Yws Gwynedd, Gwilym a Rio 18.

Mae llwyth o artistiaid erail yn perfformio hefyd gan gynnwys Blodau Papur, Cyn Cwsg, Dafydd Owain a HMS Morris i enwi dim ond rhai.

Manylion llawn ar wefan yr ŵyl.

Gadael Ymateb