Mae’r DJ a chyflwynydd Huw Stephens wedi dechrau ei yrfa fel awdur ac wedi cyhoeddi ei lyfr cyntaf.
‘100 Record’ ydy enw’r gyfrol newydd gan Huw sydd wedi’i gyhoeddi gan wasg Y Lolfa ar ddiwedd mis Mai.
Fel mae enw’r gyfrol yn awgrymu, mae’r llyfr yn cynnwys dewis Huw o 100 o recordiau arwyddocaol o Gymru, boed nhw gan artistiaid sy’n canu yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae’r detholiad yn cynnwys recordiau gan Tom Jones, Shirley Bassey, Dafydd Iwan, Max Boyce, Manic Street Preachers, Super Furry Animals, Adwaith, Mace the Great a llawer mwy.
Bydd cyfle i weld Huw yn trafod y gyfrol mewn cyfres o ddigwyddiadau lansio dros yr wythnosau nesaf.
Mae modd prynu’r gyfrol o siopau llyfrau da nawr, neu archebu copi trwy wefan Y Lolfa.