Cyhoeddi manylion cyntaf Gŵyl Tawe 2024

Mae’r enwau cyntaf wedi eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe 2024 a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn yr 8 Mehefin.

Yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus yn ei chartref newydd yn 2023, bydd yr ŵyl eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd cyffrous ac amrywiol. 

Ymysg yr enwau a fydd yn perfformio eleni bydd N’famady Kouyaté sef y cerddor dawnus, egnïol o Guinea (Conakry), a symudodd i Gaerdydd yn 2019. Mae’n aml-offerynnwr talentog a synnodd cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon gyda’i ddehongliadau modern o ganeuon traddodiadol Mandingue o orllewin Affrica wrth gefnogi Gruff Rhys ar y daith ar gyfer ‘Pang!’. 

Prif offeryn N’famady yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol sy’n sanctaidd i ddiwylliant gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol griot/djeli. Enillodd y gystadleuaeth ‘Emerging Talent’ ar gyfer gŵyl Glastonbury yn 2023, a bydd N’famady yn dod a’i fand llawn i Ŵyl Tawe yn yr haf, gan ddychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf ers ei gig llawn dop yn Elysium ym mis Mehefin 2022.

Un o’r enwau amlycaf eraill sydd wedi eu datgelu ydy HMS Morris, sef y band art-rock dwyieithog o Gaerdydd, Cymru sydd wedi cael cyfnod hynod o brysur ers rhyddhau eu halbwm diweddaraf ‘Dollar Lizard Money Zombie’ yn hydref 2023. 

Hefyd yn perfformio ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa bydd Bitw, Breichiau Hir, Ci Gofod, KIM HON, Mellt, Parisa Fouladi, a Worldcub, gyda mwy o enwau eto i’w cyhoeddi.

Mae’r ŵyl yn gwbl rhad ac am ddim, gyda’r amgueddfa yn agor am 10:00 a’r adloniant yn parhau hyd at 21:00. Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, bydd yna hefyd sioeau theatr rhyngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol, ac amrywiaeth o weithdai creadigol wedi eu darparu gan bartneriaid Menter Iaith Abertawe yng nghyntedd yr amgueddfa.

Dychwelyd i’r amgueddfa

“Rydym yn gyffrous iawn i rannu’r enwau cyntaf ar gyfer Gŵyl Tawe 2024 gyda phawb” meddai Tomos Jones, sef Prif Swyddog, Menter Iaith Abertawe / Gŵyl Tawe. 

“Roedd yr adborth o’n blwyddyn gyntaf yn yr amgueddfa yn wych, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dychwelyd eto eleni. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod ffantastig arall o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymreig, gyda phopeth yn rhad ac am ddim yng nghanol dinas Abertawe.”

Am y tro cyntaf eleni, bydd yr ŵyl hefyd yn ehangu i fod yn ddigwyddiad deuddydd gyda pharti cloi arbennig yng nghwmni Melin Melyn yn y Bunkhouse ar nos Sul y 9 Mehefin i orffen y penwythnos mewn steil. Roedd gig diwethaf Melin Melyn yn y Bunkhouse wedi gwerthu allan, felly mae’r trefnwyr yn annog pobl i wneud yn siŵr eu bod yn bachu tocyn yn gyflym.Mae’r tocynnau ar werth nawr. 

Cyflwynir Gŵyl Tawe 2024 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth bellach gan Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, a’r Bunkhouse Abertawe.