Cyhoeddi manylion Gŵyl Ara Deg

Mae manylion yr ŵyl flynyddol a gynhelir ym Methesda, Ara Deg, wedi eu datgelu gan y trefnwyr. 

Neuadd Ogwen ym Methesda ydy canolbwynt y digwyddiad a gynhelir bob blwyddyn ar ddiwedd mis Awst, a sy’n cael ei chyd-drefnu gan y cerddor amlycaf o’r ardal, Gruff Rhys. 

Lansiwyd yr ŵyl yn wreiddiol yn 2019, ac heblaw am flwyddyn Covid yn 2020, mae wedi ei chynnal yn flynyddol ers hynny. 

Yn 2024 bydd yr ŵyl yn dechrau ar nos Iau 22 Awst ac yn rhedeg nes nos Sadwrn 24 Awst. 

Das Kooloes a Group Listening fydd yn perfformio ar noson agoriadol y digwyddiad eleni, a bydd gig y noson ganlynol, sef nos Wener 23 Awst, gyda Bill Ryder-Jones a Georgia Ruth. 

Nos Sadwrn 24 Awst fydd uchafbwynt y penwythnos gyda noson deyrnged arbennig er cof am Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik a fu farw’n gynharach yn y flwyddyn eleni. Bydd Gruff Rhys ei hin yn perfformio ar y noson honno yn ogystal â Strawberry Guy, Fflapogram (sef cyfuniad o’r ddau fand oedd ar labeli Ankst ac Ankstmusik, Fflaps ac Ectogram), ynghyd â set gan Pat Morgan ac Alan Holmes. 

Bydd hefyd dangosiad o ffilm Pandora’s Box, a ffair recordiau fel rhan o’r ŵyl gyda mwy o weithgareddau i’w cyhoedd. 

Mae tocynnau penwythnos ar werth nawr ar wefan Neuadd Ogwen, gyda thocynnau ar gyfer y gigs unigol i fynd ar werth yn fuan hefyd.