Mae trefnwyr Gŵyl Cefni yn Llangefni wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni.
Dyddiad yr ŵyl boblogaidd ydy 7 ac 8 Mehefin, a’r lleoliad ydy Maes Parcio Neuadd y Dref, Llangefni.
Mae’r ŵyl yn dechrau ar y nos Wener gyda pherfformiadau gan Dafydd Iwan, Celt a Mojo yn cynnig noson o nostalgia.
Yna ar y nos Sadwrn, dau o fandiau mwyaf y sin – Bwncath a Fleur de Lys – ydy’r prif atyniadau.
Bydd perfformiadau dydd Sadwrn hefyd yn cynnwys Y Cledrau, Brodyr Magee, Ffatri Jam, Calibur a mwy.
Mae tocynnau’r digwyddiad bellach ar werth hefyd.