Cyhoeddi manylion Gŵyl y Gwylliaid 2024

Mae trefnwyr Gŵyl y Gwylliaid, a gynhelir y nhafarn Y Llew Coch yn Ninas Mawddwy, wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad eleni.

Cynhelir yr ŵyl rhwng nos Wener 28 a dydd Sul 30 Mehefin, gan ddechrau gyda noson Bragdy’r Beirdd yng Nghwmni Rhys Iorwerth ar y nos Wener.

Dydd Sadwrn fydd y diwrnod mawr o ran y gerddoriaeth gyda’r drysau’n agor am 3pm.

Bydd llu o enwau mawr yn perfformio gan gynnwys Elin Fflur a’r Band, Eden, Cowbois Rhos Botwnnog, Mr, Mei Gwynedd a Mynadd.

Bydd arlwy’r dydd Sul yn cynnwys sesiynau Cyw a Stwnsh i’r plant, ynghyd â pherfformiadau gan Gôr Meibion Machynlleth, Aeron Pugh a Tudur Phillips. 

Tocynnau ar y drws yn unig fydd i’r nos Wener a dydd Sul, ond mae modd archebu tocynnau ar-lein nawr ar gyfer y dydd Sadwrn.