Cyhoeddi manylion lein-yp Fel ‘na Mai

Mae Gŵyl Fel ‘na Mai a gynhelir yng Ngrymych wedi cyhoeddi lein-yp llawn y digwyddiad yn 2024. 

4 Mai fydd dyddiad Gŵyl Fel ‘na Mai eleni, a Pharc Gwynfryn yng Nghrymych ydy’r lleoliad. 

HMS Morris ydy’r prif enw ar y lein-yp gyda llwyth o artistiaid amlwg eraill yn cefnogi. Mae rhain yn cynnwys Al Lewis a’r Band, Fleur de Lys, Cowbois Rhos Botwnnog, Alffa a Danielle Lewis. 

Mae ‘na ambell enw mawr o’r gorffennol ar yr arlwy hefyd, gan gynnwys y band lleol poblogaidd o’r 1990au, Jess. Bydd Dafydd Iwan yn perfformio hefyd, ynghyd â chyn-ganwr Edward H Dafis, Cleif Harpwood. 

Ar ben hynny bydd perfformiadau gan nifer o ysgolion lleol ynghyd â gweithgareddau eraill. 

Bydd yr ŵyl yn cael ei llywio gan y cyflwynydd Mirain Iwerydd sydd wedi ei magu yn yr ardal. 

Mae Gŵyl Fel ‘na Mai yn un o wyliau ieuengaf Cymru – dim ond yn 2022 y cafodd ei sefydlu – ond mae’n ymddangos i fod yn mynd o nerth i nerth. 

Mae’r trefnwyr hefyd yn gyfrifol am gynnal Gwobr Goffa Richard a Wyn Fflach, a bydd cyfle i weld enillwyr diweddaraf y wobr honno, Gelert, yn perfformio yn yr ŵyl eleni. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl nawr ar wefan Fel ‘na Mai