Mae trefnwyr Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cadarnhau manylion sylfaenol y digwyddiad eleni.
Symudodd yr ŵyl boblogaidd o Gastell Caerdydd i Barc Bute llynedd, ac mae’r trefnwyr wedi cadarnhau bydd y digwyddiad yn aros yn y lleoliad hwnnw eleni.
Dyddiad Tafwyl 2024 fydd penwythnos 12-14 Gorffennaf.