Mae Y Selar wedi datgelu rhestrau byr ein gwobrau cerddorol blynyddol, Gwobrau’r Selar eleni.
Daw’r newyddion ar ôl i’r bleidlais gyhoeddus gau ar nos Fercher 7 Chwefror, a bydd yr holl enillwyr yn cael eu datgelu ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru dros yr wythnos nesaf, gan ddechrau gyda’r cyhoeddiad cyntaf ar nos Lun 12 Chwefror.
Yn ôl yr arfer mae’r mwyafrif o enillwyr y categorïau wedi’u dewis fel rhan o bleidlais gyhoeddus. Yr unig eithriadau ydy’r Wobr Cyfraniad Arbennig a Gwobr 2023 sy’n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar. Enillydd y Wobr Cyfraniad Arbennig fydd y cyntaf i gael ei gyhoeddi, a hynny ar raglen BBC Radio Cymru Rhys Mwyn nos Lun.
Mae’r enwau sydd ar y rhestrau byr yn amrywiol iawn y tro hwn, gyda dim un band neu artist penodol yn debygol o ennill nifer o wobrau. Er hynny, mae’r bandiau Pys Melyn, Bwncath, GWCCI a Dadleoli i gyd yn ymddangos ar ddwy restr fer yr un.
Dros yr wythnos nesaf, gan ddechrau ar 12 Chwefror, bydd enwau’r enillwyr ar gyfer pob categori’n cael eu datgelu un ar ôl y llall ar raglenni amrywiol BBC Radio Cymru.
“Rydyn ni’n falch iawn i gyd-weithio gyda BBC Radio Cymru i gyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Selar unwaith eto eleni” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Y gobaith rhyw ddydd ydy ail-gyflwyno rhyw fath o ddigwyddiad byw Gwobrau’r Selar, ond ers i ni gynnal yr un ddiwethaf yn 2020, mae’r bartneriaeth gyda Radio Cymru wedi gweithio’n arbennig o dda ac wedi llwyddo i greu llawer o gyffro ynghylch â’r achlysur.
“Rydym yn ddiolch i’r cannoedd o bobl a bleidleisiodd dros y rhestrau byr, ac enillwyr y gwobrau eleni – mae’n dangos bod llawer iawn o ddiddordeb yn y sin ar hyn o bryd, a bod y gynulleidfa’n gwerthfawrogi gwaith caled yr artistiaid, labeli a hyrwyddwyr. Mae llawer o amrywiaeth ar y rhestrau byr, sy’n beth gwych ac mae’n amlwg bod llawer o artistiaid ifanc wedi gwneud eu marc hefyd.”
Mae’r bartneriaeth gyda Radio Cymru wedi bod yn un llwyddiannus dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’r orsaf yn falch iawn i barhau â’r berthynas.
“Mae Radio Cymru yn falch iawn o gael cydweithio gyda’r Selar unwaith eto eleni” meddai Gethin Griffiths, Uwch Gynhyrchydd Cynnwys Radio Cymru.
“Mae’r Gwobrau yn rhan hollbwysig o’r calendr cerddorol yng Nghymru ac yn amlygu’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth sydd yn cael ei greu yma heddiw.
“Rydym yn ymrwymo i barhau i hybu ac adlewyrchu cyffro a chynnwrf yr artistiaid gwych yma, ac mae’n fraint cael cyhoeddi’r enillwyr ar draws ein rhaglenni ni yn ystod yr wythnos.”
Cofiwch wrando ar Radio Cymru, a chadw golwg ar gyfryngau Y Selar wythnos nesaf i ddarganfod pwy sy’n cipio’r gwobrau eleni. Dyma’r rhestrau byr yn llawn:
Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar 2023
Cân Orau
CANNA – GWCCI
Bolmynydd – Pys Melyn
Gyrru Ni ‘Mlaen – Meinir Gwilym a Bwncath
Gwaith Celf Gorau
Carnifal – Alistair James ac Angharad Rhiannon
Uwch Dros y Pysgod – Dafydd Owain
Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau
Artist Unigol Gorau
Malan
Mali Haf
Dafydd Hedd
Band neu Artist Newydd
Maes Parcio
Dadleoli
Gwcci
Band Gorau
Bwncath
Pys Melyn
Fleur de Lys
Seren y Sîn
Mirain Iwerydd
Hana Lili
Criw Gigs Tin Sardins
Record Fer Orau
Diwrnodau Haf – Dadleoli
Rhan Un – Gwilym
Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth – Maes Parcio
Record Hir Orau
Pan Ddaw’r Dydd i Ben – Glain Rhys
Kim Hon – Kim Hon
Dim Dwywaith – Mellt
Fideo Gorau
Sgen Ti Awydd? – Maes Parcio
Hotel – Gwcci
Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau