Cyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2024 Y Selar

Mae rhifyn newydd o gylchgrawn  Y Selar wedi’i gyhoeddi ac ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol nawr.

Yr artist o Sir Gâr, Gillie, sydd ar glawr y rhifyn newydd o’r cylchgrawn ac mae cyfweliad gyda hi wedi’i ysgrifennu gan Lois Gwenllian ar ôl iddi ryddhau ei EP, ‘Yn y Bore’, yn ddiweddar. 

Prif gyfweliad arall y rhifyn ydy hwnnw gyda Cowbois Rhos Botwnnog sydd wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf, ‘Mynd a’r Tŷ am Dro’. 

Mae eitemau eraill y rhifyn diweddaraf yn cynnwys Sgwrs Sydyn gyda’r gantores ifanc o Arfon, Alis Glyn, eitem ‘Newydd ar y Sin’ gan Nel Thomas, oriel luniau gigs Tim Sardines a darn arbennig gan enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar, Gai Toms. 

Ceir hefyd crynodeb o holl restrau byr ac enillwyr Gwobrau’r Selar ynghyd â rhestr 10 Uchaf Albyms 2023 yn ôl y cannoedd fu’n pleidleisio dros y gwobrau eleni. 

Mae’r rhifyn print ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol sy’n cynnwys ysgolion, colegau, siopau llyfrau Cymraeg a lleoliadau amrywiol eraill. Mae’r cylchgrawn hefyd yn cael ei ddosbarthu’n lleol gan y mentrau iaith amrywiol, ac yn cael ei bostio’n uniongyrchol i aelodau Clwb Selar gydag anrheg arbennig sef print o ddarluniad unigryw gan yr artist Sion Tomos Owen. 

Fel arfer, mae fersiwn digidol o’r cylchgrawn hefyd yn cael ei gyhoeddi – cliciwch ar y clawr isod i ddarllen hwn