Mae cynllun Forté, sef rhaglen datblygu talent ar gyfer cerddoriaeth newydd o Gymru wedi cyhoeddi manylion yr artistiad fydd yn cael eu cefnogi ganddynt yn ystod 2024.
Bellach, mae’r cynllun yn rhedeg ers naw o flynyddoedd ac maent wedi dod o hyd i grëwyr cerddoriaeth newydd o bob rhan o Gymru, y byddant yn helpu i’w datblygu dros y deuddeg mis nesaf.
Gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau wedi’i derbyn, dewisodd panel o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth ddeg artist a fydd yn cychwyn ar raglen o gefnogaeth diwydiant, sioeau byw unigryw a chyfleoedd recordio.
Mae un band Cymraeg ymysg yr enwau eleni sef Cyn Cwsg. Yn ôl Forté, mae Cyn Cwsg yn cyfuno alawon breuddwydiol gyda geiriau gonest.
“Meddyliwch am George Harrison gydag awgrym gynnil o Ezra Furman, a hynny’n y Gymraeg” meddent.
Ar ôl perfformio cyfres o gigs dros yr haf yn 2023 trwy label cerddoriaeth Klust, cydweithio efo Sywel Nyw, a chyfres o gigs yn cefnogi Mellt a Los Blancos, mae’r band indie-pop Gogleddol yn barod am flwyddyn gyffrous eleni.
Artist arall dwy-ieithog ar y cynllun eleni ydy Lily Maya, sef cantores soul R&B a ddaw o’r Coed Duon a sy’n trwytho ei threftadaeth Gymreig a Charibïaidd yn ei cherddoriaeth.
Mae Lilly Maya yn ysgrifennu straeon am y bobl o’i chwmpas ac yn creu caneuon sy’n atseinio gyda’r rhai sy’n eu clywed. Yn 2023 rhyddhawyd ei thrac cyntaf, ‘Rhedeg Mas o Amser’, sydd ar restr chwarae BBC Radio Cymru.
Wedi’i sefydlu yn 2015, mae Prosiect Forté wedi sefydlu hanes o feithrin talent sy’n cael ei gydnabod trwy Bartneriaeth Datblygu Talent y DU yn PRS. Drwy gydol ei gyfnod, mae wedi datblygu dros wyth deg o grewyr cerddoriaeth ifanc 16–25 oed o bob rhan o Gymru.
Ymysg yr artistiaid sydd wedi bod trwy’r rhaglen mae enwebeion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig – Minas, CVC, Dead Method yn ogystal ag enillwyr y wobr Triskel – Hana Lili, Eädyth, Aderyn a Half Happy. Enwau Mawr arall y prosiect yw’r triawd CHROMA o Bontypridd, a fydd yn cefnogi Foo Fighters ar eu taith haf yn y DU yn 2024, Otto Aday o Ferndale sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dave Stewart o Eurythmics a Hana Lili sydd wedi cefnogi Coldplay ar eu Taith DU yn ddiweddar.
Y 10 artist ar gyfer 2024 ydy:
Cyn Cwsg – band indie-pop Gogleddol sydd wedi cefnogi Mellt a Los Blancos yn 2023.
Lily Maya – cantores soul R&B a ddaw o’r Coed Duon a sy’n trwytho ei threftadaeth Gymreig a Charibïaidd yn ei cherddoriaeth.
Orbit Street – Ffurfiwyd a pherfformiwyd gan Ursula Harrison, mae Orbit Street wedi blaguro o brosiect unigol i fand indie jazz gyflawn.
Loafus – Canwr / cyfansoddwr gyda naws seicedelig ysgafn sy’n archwilio eu cerddoriaeth drwy grunge, blues a jazz.
Lila Zing – Artist unigol lo-fi electroneg sy’n cynhyrchu, cymysgu, ‘sgwennu, at y meistroli a’r perfformio i gyd ei hun o’i stiwdio chartref yn Llanbedrog.
Monet – Pedwarawd o Abertawe sydd â brand gwyllt o indie-punk arbrofol wedi bod yn ennill cefnogwyr fesyl sioe wrth iddynt gigio’n ddi-baid ar draws De Cymru.
em koko – artist a’r aml-offerynnydd a anwyd yn y Fenni sy’n creu cymysgedd o ‘shoegaze’ modern a phop breuddwydiol diwydiannol.
LILY – Wedi’i geni a’i lleoli yng Nghaerdydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Lily wedi bod yn perfformio ei cherddoriaeth R&B/Soul cyfareddol a chydweithio gydag amrywiaeth o artistiaid o Gaerdydd yn ogystal â’i grŵp cerddoriaeth Source.
Yesekaon – Cynhyrchydd/rapiwr o Fae Colwyn a raddiodd o BIMM yn 2023 ac mae ganddo awydd gwneud marc ar y sîn hip-hop Gymreig gynyddol.
Papa Jupes T.C. – Band surf-roc o Gaerdydd yn plethu post-pync, gospel a disgo gyda geiriau siarp a ffraeth yn goron ar y cyfan.