Wedi blwyddyn lwyddiannus yn 2023 wrth i’r band ffrwydro i amlygrwydd, mae Dadleoli yn ôl gyda’u cynnyrch cyntaf o 2024 ar ffurf y sengl ‘Rhydd o’r Crud’.
Ffurfiwyd Dadleoli yn wreiddiol drwy brosiect ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl 2022 ac ers hynny, maent wedi mynd o nerth i nerth, yn gwerthu allan sioeau yng Nghlwb Ifor Bach, perfformio ar lwyfannau mawr Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd, Tafwyl a Parti Ponti, yn ogystal â chefnogi mawrion y sin fel Dafydd Iwan, Candelas a Bwncath.
Cafodd gwaith caled y band ei gydnabod yn ddiweddar, wrth iddynt ddod i’r brig ym mhleidlais dau o gategorïau Gwobrau’r Selar 2023, sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau a’r ‘Record Fer Orau’ am eu EP cyntaf, ‘Diwrnodau Haf’.
Mae Efan (prif leisydd), Jake (piano a gitâr), Caleb (dryms), Tom (gitâr a sax), a Jac (bas) yn prysur ffeindio eu traed yn y stiwdio gyda’u cynhyrchydd, Mei Gwynedd, ac mae sain egnïol, bachog a chyffrous y band yn datblygu gyda phob trac.
Mae ‘Rhydd O’r Crud’ yn anthem i’r Cymry ifanc. Anthem sy’n rhannu profiadau o ffeindio ffordd mewn bywyd modern a dianc o gadwyni’r ysgol.
Efan gafodd y felodi tra ar daith Dug Caeredin, ac fel popeth mae Dadleoli yn ei wneud, mae syniadau pob aelod yn cael eu plethu i greu sain unigryw’r band.