Dafydd Hedd yn rhyddhau ‘Rocstar’

‘Rocstar’ ydy enw sengl newydd amgen grunge-rock newydd Dafydd Hedd, ac mae allan ar label Bryn Rock.  

“Ysgrifennais “Rocstar” o bersbectif plentynnaidd artist ifanc sydd yn gweld dim byd arall yn bwysig heblaw am rocio, gigio a gweld y byd” eglura Dafydd. 

“Mae hyn yn cael ei gyferbynnu gyda realiti o fywyd, annhegwch gwleidyddol a chariad mewn breuddwydion eraill. Yn ystod y gân, mae’r “rocstar” yn tyfu fyny; dal i garu rocio ond yn annog bawb “i ymladd dros eu hawliau er mwyn dyfodol y byd”. 

“Mae’r clawr yn cynnwys carreg photoshop efo gwen fyny i lawr a llygaid “googly” gyda sêr yn y cefndir. 

“Mae’r natur syml…braidd rhy syml os rhywbeth…yn cyfleu’r emosiynau cymhleth o beidio gallu mentro dy freuddwyd a’r dicter, tristwch, cenfigen a dryswch mewnol” ychwanega’r cerddor. 

Yn ôl Dafydd mae’r trac yn dangos y modd mae grwpiau fel Nirvana, Los Blancos, BLE?, The Clash, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender wedi dylanwadu arno. 

Mae ‘Rocstar’ yn anthem amgen, grunge-rock sy’n adrodd stori “rocstar” ifanc yn aeddfedu a mynd yn flin pan mae anghyfiawnder yn lladd breuddwydion.