Dewi Williams yn ôl gydag albwm newydd

Mae’r cerddor profiadol, Dewi Williams, wedi dychweld gyda’i albwm newydd, Tydi Politics yn Hwyl?

Mae Dewi’n gyfarwydd fel aelod o sawl band yn y gorffennol gan gynnwys Baswca, Y Crwyn, Defaid a Sgwarnogs. 

Daw’r cerddor o Glynnog Fawr, ac yn 2012 fe ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, sef y record gysyniadol, Gwyliau – record a gafodd adolygiad arbennig o dda yng nghylchgrawn Y Selar ac a gafodd ei henwi yn rhestr ‘Deg Uchaf Albyms 2012’ y cylchgrawn.

Mae wedi rhyddhau dau albwm arall ers hynny, gan arbrofi gyda seiniau amrywiol. Er hynny, aiff yn ôl i’w wreiddiau gyda’r record ddiweddaraf, gyda steiliau amrywiol fel roc, reggae, gwerin a punk – arddyll sy’n debyg i ‘Gwyliau’.  

Yn ôl Dewi, os ydych chi wedi cael llond bol o wleidyddiaeth yn ddiweddar, yr albwm yma ydy’r union beth sydd angen i’ch ysbrydoli i edrych o’ch cwmpas a gweld be sy’n digwydd yn ein byd ni, a codi i fyny a gweiddi.

Mae Dewi wedi recriwtio ei hen ffrindiau Huw Haul, Tony Prowse a Petra Engels o’r Almaen i helpu ar yr albwm a’i wneud yn brofiad cerddorol arbennig.

Mae’r albwm allan ar y llwyfannau digidol arfer, ac ar ffurf CD, nawr, trwy label Final Vinyl Publishing.

Dyma deitl drac yr albwm newydd: