Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Duw Neu Magic’.
Mae’r trac yn dilyn ‘Driving Dreams’ fel yr ail sengl oddi ar albwm newydd Georgia Ruth, ‘Cool Head’.
“Mae’n sôn am noson a oedd yn teimlo’n dyngedfennol iawn imi” eglura Georgia.
“…wrth roi fy mechgyn i gysgu’r noson honno, roeddwn i’n teimlo mai dim ond ryw rym arbennig fyddai’n gallu cario fy nheulu bach yn ddiogel drwodd i’r bore. Mae Iwan Morgan, cyd-gynhyrchydd yr albwm, yn dweud ei fod yn swnio fel glaw Paris yn y 60au – a dwi’n fwy na hapus gyda hynny!”
‘Cool Head’ yw pedwerydd albwm Georgia gafodd ei hysgrifennu yn y flwyddyn yn dilyn salwch ei gŵr, Iwan, ac mae’n cyfleu’r hyn a disgrifia Georgia fel “taith hir drwy’r nos i’r bore”.
Mae ‘Cool Head’, ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml, yn gasgliad didwyll o ganeuon sy’n plethu dylanwadau sy’n ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au.
Wedi’i recordio yn stiwdio Sain, mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau gan Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llewelyn (Aldous Harding), a Rhodri Brooks (Melin Melyn). Mae hefyd yn gweld llais unigryw Euros Childs (Gorky’s Zygotic Mynci) yn ymddangos ar ambell i drac yn ogystal â threfniadau llinynnol Gruff Ab Arwel, wedi’u perfformio’n gelfyddyd gan Angharad Davies, Angharad Jenkins a Patrick Rimes.
I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo ar gyfer y trac wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp.
Dafydd Hughes a Georgia Ruth ei hun sydd wedi cyfarwyddo’r fideo.