Mae’r band ifanc o ardal Y Bala, Mynadd, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau I KA CHING.
‘Dylanwad’ ydy enw ail sengl Mynadd, gan ddilyn sengl gyntaf y band, ‘Llwybrau’, a ryddhawyd nôl ym mis Tachwedd 2023.
Yn ôl I KA CHING, heb os, mae’r un teimlad blŵsi oedd ar y sengl gyntaf i’w chlywed yn ‘Dylanwad’ a riffs y piano yn rhoi haen dywyllach i’r gân yma.
Wrth drafod testun y gân, mae Elain, y prif leisydd yn ei disgrifio fel “y ffin denau rhwng pwysigrwydd dylanwad, y dynfa ato fo, a’r angen i dorri dy gwys dy hun”.
Dylanwadau cerddorol ‘uniongyrchol’ y band yw artistiaid fel Billy Joel ac arddull lleisiol cantorion Cymraeg cyfoes fel Alys Williams a Mared Williams. Does dim dwywaith chwaith fod dylanwad cerddorion yn eu bro e.e. Y Cledrau, Candelas a Blodau Papur, wedi bod yn aruthrol ar Mynadd wrth ffurfio, perfformio a hefyd wrth gyfansoddi.
Mynadd ydy Elain Rhys (prif leisydd), Math Thomas (gitâr), Gruffudd ab Owain (piano), Nel Thomas (bas), Cadog Edwards (drymiau). Aeth Mynadd at y cynhyrchwyr Carwyn Williams ac Ifan Emlyn Jones i Stiwdio Sain i recordio’r sengl hon, a bydd rhagor i’w glywed ganddynt yn fuan.
Tynnwyd llun clawr y sengl newydd gan Geraint Thomas ‘Panorama’, tad Nel a Math o’r band.