Eädyth yn ffurfio partneriaeth newydd

Mae’r cerddor neo-soul o Ferthyr, Eädyth, wedi hen ennill ei phlwyf fel artist unigol talentog, ond wedi cymryd cyfeiriad newydd yn ddiweddar trwy ffurfio partneriaeth newydd. 

Cyn hyn mae Eädyth wedi bod y perfformio ar ei phen ei hun, ond bellach mae wedi datblygu’n ddeuawd ddeinamig gyda’r gitarydd o ogledd Cymru, Rhodri Foxhall. 

Nawr, mae’r pâr yn barod i ddatgelu eu pennod gerddorol newydd, sef y trac ‘Amser’, sengl gyntaf y ddau gyda’i gilydd sydd allan ers dydd Gwener 26 Ionawr. 

Mae ‘Amser’ yn plethu cerddoriaeth progressive alt-metal gyda soul ac mae’n dynodi, nid yn unig dechreuad newydd i’r ddau gerddor, ond hefyd yn cyhoeddi ffurfio eu label newydd sbon, Recordiau KandE. 

Drwy fideos arbennig a pherfformiadau cysyniadol, mae’r ddau yn gyffrous i rannu ochr newydd i Eädyth yn 2024. Mae’r cynhyrchydd, prif gantores, a’r gitarydd rhythm, Eady, yn cyflwyno llais ffyrnig, tanllyd a geiriau gonest yn y gân gan adrodd stori amser trwy ei llygaid hi ei hun. 

“Mae neges ‘Amser’ yn ymwneud â sut y dysgais i weld amser fel rhywbeth aflinol” eglura Eädyth. 

“Rydym yn addasu, newid, dysgu a thyfu. Mae amser wedi  siapio sut ydw i ’di dod i fyw a bod ond hefyd rydw i wedi gallu siapio fy hun trwy gydnabod mai  amser yw’r cyfan sydd gennym ni, ac mae’n rhaid i mi gymryd rheolaeth o’r ffaith honno. Cyn  belled â fy mod yn parhau i ddilyn fy llwybr fy hun, byddaf yn cyrraedd lle rydw i eisiau bod.” 

Mae’r prif gitarydd a’r cyd-gynhyrchydd, Rhodri Foxhall, yn dod ag ochr melodig i’r trac, gan gyflwyno naws  breuddwydiol a grooves bachog. Mae’r ddeuawd yn  dod â bywyd, angerdd ac egni i’r sengl newydd ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.