Endaf nôl yn cydweithio gydag SJ Hill

Mae’r cynhyrchydd o Gaernarfon, Endaf, wedi dod ynghyd unwaith eto gyda’r cyn-enillydd o’r rhaglen Romeo & Duet, SJ Hill, i ryddhau sengl newydd ar y cyd, ‘Take Over Me’.

Dyma’r trydydd trac i’r ddau recordio ar y cyd gan ddilyn ‘Crazy Love’ a ‘Good Day’.

Cafodd ‘Crazy Love’ ei osod ar restr chwarae Welsh A-List BBC Radio Wales ac mae bellach wedi denu bron i 150,000 o ffrydiau, tra bod ‘Good Day’ wedi glanio ar restr chwarae golygyddool Spotify, Fresh Finds UK & Ireland.

Gyda’i naws melodaidd, ysgafn sy’n ymestyn o soul, R&B a phop meddal, mae ‘Take Over Me’ yn gân sy’n cydio’n syth. Mae’r sengl allan ar label Endaf, sef High Grade Grooves, ers dydd Gwener diwethaf, 16 Chwefror.