Enillwyr Gwobrau’r Selar 2023 yn gyflawn

Mae holl enillwyr Gwobrau’r Selar bellach wedi’u cyhoeddi ar ôl wythnos o ddathlu a datgelu mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru.

Datgelwyd enwau enillwyr y ddau gategori oedd yn weddill gan Ifan Sion Dafydd oedd yn cadw sedd Huw Stephens yn gynnes ar ei raglen ar nos Iau 15 Chwefror. Cyhoeddodd Ifan mai trefnwyr gigs Tin Sardines yn Arfon oedd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus yn y categori ‘Seren y Sin’ ar gyfer 2023, a datgelodd hefyd mai Mellt, gyda’r albwm Dim Dwywaith, oedd enillwyr y wobr am y Record Hir Orau.

Roedd y cyhoeddiadau diweddaraf yn benllanw wythnos o ddathlu’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar donfeddi Radio Cymru a thu hwnt, gydag 11 o Wobrau’r Selar yn cael eu cyflwyno i gyd.

Gwobrau i’r profiadol a newydd

Y wobr gyntaf i’w chyflwyno oedd honno am y ‘Cyfraniad Arbennig’, ac fe gyhoeddwyd yr enillydd yn fyw ar raglen Rhys Mwyn nos Lun. Y tro hwn, y canwr-gyfansoddwr o Stiniog, Gai Toms dderbyniodd y wobr a hynny am ei gyfraniad mawr i gerddoriaeth dros y tri degawd diwethaf.

Roedd Gai yn amlwg wedi’i synnu wrth i Rhys dorri’r newyddion yn ddi-rybudd iddo mewn sgwrs ar yr awyr, ac er gwaethaf barn y cerddor nad oedd yn ddigon hen i dderbyn gwobr fel hon, does dim gwadu ei fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth ers blynyddoedd maith.

Gwnaed y cyhoeddiadau nesaf ar raglen Ifan Jones Evans brynhawn Mawrth, a thro’r genhedlaeth iau oedd hi y tro hwn wrth i Ifan ddatgelu mai Dadleoli oedd enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau 2023’ a hefyd y wobr am y ‘Record Fer Orau’. Roedd canwr y band o Gaerdydd, Efan…sydd dal yn yr ysgol yn astudio ar gyfer TGAU, yn westai ar raglen Ifan, ac roedd yn dipyn o sypreis iddo yntau hefyd wrth i’r cyflwynydd dorri’r newyddion iddo ar ddiwedd eu sgwrs.

Roedd cyfle am ddau gyhoeddiad arall ddydd Mawrth hefyd, a hynny ar raglen Georgia Ruth gyda’r hwyr. Datgelodd Georgia yn gyntaf mai Malan oedd wedi dod i frig y bleidlais yn y wobr am yr ‘Artist Unigol Gorau’, ac yna mai clawr yr albwm Fel Hyn Fel Arfer gan Y Cledrau oedd wedi’i ddewis gan y cyhoedd fel y ‘Gwaith Celf Gorau’.

Wrth sgwrsio gyda Georgia ar yr awyr roedd Malan yn amlwg wrth ei bodd â’r newyddion.

“Dwi mor hapus, dwi’n caru pan ma Gwobrau’r Selar yn dod o gwmpas bob blwyddyn a ma’n nuts meddwl bod fi wedi ennill Artist Unigol Gorau, ma’n crazy” meddai’r gantores.

“Yn bendant blwyddyn diwethaf [2023] oedd y flwyddyn mwyaf exciting eto i fi. Nes i ryddhau EP cyntaf…ma hwna’n gorfod bod yr uchafbwynt a wedyn es i ar daith bach tiny efo’r EP, dau beth o’n i heb wneud o’r blaen a nes i rili mwynhau’r profiad.”

Cân, fideo a Gwobr 2023

Dechreuodd y cyhoeddiadau’n gynnar ddydd Mercher wrth i Aled Hughes ddatgelu enillydd y wobr am y ‘Gân Orau’ ar ei raglen foreol.

‘Bolmynydd’ gan Pys Melyn ddaeth i frig y bleidlais y tro hwn, ac roedd sgwrs rhwng Aled a Ceiri Humphreys o’r band ar y rhaglen, a bu’n egluro cefndir y gân gan egluro mai traeth ydy ‘Bolmynydd’ iddo ef, ond mai maes carafanau ydy o i nifer. Does dim amheuaeth ei bod yn gân hafaidd fach neis iawn sydd wedi dal dychymyg nifer.

Roedd dau gyhoeddiad pellach yn ddiweddarach yn y dydd ar raglen Mirain Iwerydd yn y nos. Un o’r rhain oedd y wobr am y ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ a enillwyd y tro hwn gan Gwcci am y fideo i’w cân ‘Hotel’ a gyfarwyddwyd gan Dan Jardine.

‘Gwobr 2023’ oedd i ddod nesaf, gwobr sydd wedi dod yn arwyddocaol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, a’r enillydd y tro hwn oedd yr ardderchog Tara Bandito.

Sefydlwyd y wobr arbennig yma yn 2020 – blwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen ac un a gododd lawer o gwestiynau pwysig ynglŷn ag amrywiaeth a chynrychiolaeth. Eädyth oedd enillydd y wobr gyntaf, ac ers hynny mae wedi’i chyflwyno i griw Merched yn Gwneud Miwsig yn 2021 ac yn Izzy Rabey yn 2022. Mae Tara yn enillydd diweddaraf teilwng iawn yn ôl Y Selar.
 
“Mae’r sawl sydd wedi derbyn y wobr bob tro wedi bod yn llais ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sin gerddoriaeth ac yn bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth dros y flwyddyn a fu yn nhyb tîm golygyddol Y Selar” eglura Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Heb amheuaeth mae Tara wedi gwneud hynny yn ystod 2023. Mae wedi bod yn llais cryf dros ferched yn enwedig, ac wedi ysbrydoli degau os nad cannoedd o ferched ifanc. Mae hefyd yn gyson wedi ysgogi trafodaeth am iechyd meddwl ac wedi ysgogi eraill i deimlo’n gyfforddus i drafod y pwnc pwysig hwnnw.
“Ar ben hyn oll, mae wedi arloesi gyda’i cherddoriaeth a pherfformiadau anhygoel – mae’n amhosib anwybyddu artist sydd gyda tiŵns a mŵfs fel Tara Bandito. Mae hefyd wedi mynd a cherddoriaeth Gymraeg allan i gynulleidfa newydd, a’r peth gorau ydy, mae rhywun yn synhwyro bod llawer iawn mwy i ddod ganddi!”

Gwobrau dydd Iau, a chelf cadeiriau

Roedd tair gwobr ar ôl i’w cyhoeddi ddydd Iau felly, a’r enillydd cyntaf i’w ddatgelu oedd ar gyfer gwobr y Band Gorau. Tasg Aled Hughes ar ei raglen fore oedd cyhoeddi mai Fleur de Lys oedd wedi dod i frig y bleidlais yn y categori cystadleuol yma eleni ac roedd ffryntman y band, Rhys ar y rhaglen i glywed y newyddion.

Cafodd enillwyr dwy wobr arall eu cyhoeddi ar raglen Huw Stephens gyda’r hwyr, oedd yn cael ei chyflwyno gan Ifan Sion Davies. Mae’r wobr am y ‘Record Hir Orau’ bob amser yn uchafbwynt, a’r tro hwn cyfle Mellt oedd hi i gipio’r anrhydedd am eu hail albwm, Dim Dwywaith.

Dim ond un wobr ar ôl felly, a honno’n un sy’n cydnabod arwyr llai amlwg y sin – y bobl sy’n gwneud y gwaith pwysig o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, yn aml tu ôl i’n llenni ac yn cael dim clod am wneud hynny. Enillwyr gwobr Seren y Sin y tro hwn oedd criw Gigs Tin Sardines, sydd wedi gweithio’n ddyfal i lwyfannu gigs rheolaidd yn ardal Caernarfon dros y flwyddyn ddiwethaf, gan fynd o nerth i nerth.

Bydd yr enillwyr i gyd yn derbyn gwobr arbennig wedi’i chreu gan yr artist ifanc Luke Cotter, sydd yn ei ail flwyddyn yng ngholeg Gelf Abertawe. Mae gwaith celf Luke yn wreiddiol iawn ac mae’n defnyddio deunyddiau ac mae wedi’u darganfod i greu cerfluniau sy’n debyg iawn i ddodrefn.

Wrth wneud y gwobrau, seiliodd Luke ei ddyluniadau ar gadair y beirdd o’r Eisteddfod gan ddefnyddio deunyddiau a ddarganfuwyd o amgylch Abertawe i droi’n finiaturau/fersiynau bach o’r darn eiconig hwnnw o ddodrefn Cymreig sydd wedi bod yn wobr i lawer o artistiaid Cymreig yn y gorffennol.

Mae hyn yn cydymffurfio’n dda i waith arferol Luke gan ei fod yn aml yn ceisio ail-greu ac ail-ddychmygu celfi a ffurfiau o hanes megis cadeiriau, soffas, desgiau, soffa lewygu a ffurfiau mwy haniaethol o ddodrefn fel “playthings” o faes chwarae plant.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr eleni, roedd 2023 yn amlwg yn flwyddyn gofiadwy iawn i gerddoriaeth Gymraeg – ymlaen i 2024!

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2023

Cân Orau: ‘Bolmynydd’ – Pys Melyn
Gwaith Celf: Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau
Artist Unigol Gorau: Malan
Band neu Artist Newydd Gorau: Dadleoli
Band Gorau: Fleur de Lys
Fideo Gorau: ‘Hotel’ – Gwcci
Record Fer Orau: Diwrnodau Haf – Dadleoli
Record Hir Orau: Dim Dwywaith – Mellt
Seren y Sin: Criw Tin Sardines
Cyfraniad Arbennig: Gai Toms
Gwobr 2023: Tara Bandito