EP Cymraeg gan The Night School

Mae’r band o Abertawe, The Night School, wedi rhyddhau eu EP newydd

Band dwy-ieithog ydy The Night School fel rheol, ond mae’r EP diweddaraf yn gasgliad o ganeuon Cymraeg dan yr enw ‘Llond Bol’. 

Mae’r EP wedi’i ariannu gan gynllun Gorwelion BBC Cymru, ac fe ryddhawyd dwy o’r caneuon fel senglau yn ystod yr wythnos yn arwain at ddyddiad rhyddhau’r record sef fersiwn pync-roc o ‘Sosban Fach’ a phrif sengl y casgliad, ‘Rhiannon’. 

Cynhaliwyd lansiad swyddogol yr EP mewn gig yn y Bunkhouse yn Abertawe ar 15 Mawrth. 

Mae’r EP newydd yn ddilyniant i albwm cyntaf y band a ryddhawyd ym mis Mai 2023

Aelodau The Night School ydy’r prif leisydd Daniel Davies, y gitarydd Dafydd Mills, y drymiwr Tomos Mills, a’r basydd Luke Clement

Dyma drac agoriadol yr EP, ‘Rhiannon’: