EP cyntaf Stiwdio 3 

‘Tyrfe yn Dod’ ydy enw’r EP newydd gan Stiwdio 3, y band sy’n cynnwys cyn aelodau o’r grŵp chwedlonol, Crys. 

Dyma EP cyntaf y band o gymoedd De Cymru a ddaeth i’r golwg ym mis Medi 2023 gyda’r sengl ddwbl ‘Cadw’n Agos’ a ‘Seren Wib’

Mae’r EP yn cynnwys dwy gân newydd sbon, sef ‘Mellten’ a Galw Mas i Ti’, a thair cân a ryddhawyd ar label Sain fel senglau yn ystod  2023. 

Stiwdio 3 ydy prosiect newydd y cerddorion profiadol Liam a Scott Forde fu’n aelodau o’r grŵp roc trwm chwedlonol Crys. Daeth Crys i amlygrwydd ddiwedd y 1970au, gan recordio dau albwm ar label Sain, ‘Rhyfelwr’ yn 1981 a ‘Tymor yr Heliwr’ yn 1982 – enillodd y ddwy record wobr albwm y flwyddyn cylchgrawn cerddoriaeth enwog Sgrech.

 Erbyn hyn mae mab Scott, Kieran, wedi ymuno  â’i dad a’i ewythr i greu Stiwdio 3. Recordiwyd y traciau yn stiwdio Tim Hamill, Sonic One. Mae cerddoriaeth y band yn gyfuniad celfydd o roc a phop a bydd sawl cyfle i’w clywed yn perfformio’n fyw dros yr haf yn 2024.