Mae’r band roc o’r gogledd, Ffatri Jam, wedi rhyddhau eu sengl newydd – y gyntaf o gyfres ganddynt yn ystod 2024.
‘Gelyn’ ydy enw’r trac newydd sydd allan reit ar ddechrau’r flwyddyn newydd.
Mae’r band wedi bod yn brysur yn recordio saith o ganeuon newydd gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts yn Stiwdio Ferslas, a ‘Gelyn’ ydy’r cyntaf o’r rhain i ollwng.
Eu bwriad gwreiddiol yn ôl y band oedd rhyddhau EP yn yr haf, ond bellach maen nhw wedi penderfynu rhyddhau’r traciau i gyd fel senglau unigol dros y flwyddyn nesaf.
“Da ni di dewis peidio neur E.P ac yn mynd i fod yn neud 7 sengl yn seiliedig ar y 7 pechod marwol yn 2024” eglura Bryn Hughes Williams, prif ganwr a gitarydd rhythm Ffatri Jam.
Er bod yr aelodau i gyd yn gyfarwydd ar ôl chwarae mewn bandiau eraill, mae Ffatri Jam yn fand newydd a ymddangosodd gyntaf gyda’u sengl ‘Creithiau’ ym Medi 2022.
Aelodau Ffatri Jam ydy Bryn Hughes Williams (prif lais a gitâr rythm), Sion Emlyn Parry (dryms a llais cefndir) Aled Sion Jones (prif gitâr a Llais cefn) a William Coles (gitâr fas). Daethont i adnabod ei gilydd ar ôl cyfarfod mewn gigs wrth chwarae gyda’r bandiau Calfari, Terfysg ac Y Galw.
Ers rhyddhau ‘Creithiau’ maent wedi dilyn gyda’r senglau pellach ‘Cyrff’, ‘Geiriau Ffug’ a ‘Boddi’.
Mae eu llwyddiant hyd yma yn cynnwys cael eu dewis fel trac yr wythnos ar BBC Radio Cymru, cael eu chwarae ar BBC Introducing a chael eu cynnwys ar restrau chwarae Amazing Radio. Maent hefyd wedi llwyddo i gael adolygiadau ffafriol ar flogiau cerddorol ledled y byd gan gynnwys De America, Sbaen, India, Portiwgal, Lloegr a Chymru.