Mae ffilm fer newydd wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube Lŵp, S4C, sy’n cynrychioli albwm diweddaraf y band Gwilym.
Cwmni Darlun sydd wedi creu’r ffilm fer sy’n ymdrin â’r albwm ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ ac sy’n seiliedig ar gerddoriaeth y band poblogaidd.
‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ ydy ail albwm Gwilym gan ddilyn ‘Sugno Gola’ a ryddhawyd yn 2018. Mae’r albwm yn arddangos sŵn newydd y band, ond gan ddal ar eu stamp unigryw cyfarwydd ar yr un pryd.
Rhyddhawyd yr albwm mewn ffordd unigryw drwy ei rannu’n ddwy ran, a’u rhyddhau ar ffurf dau EP gyda’r naill wedyn y llall yn adeiladu’r cynnwrf yn berffaith at ryddhad yr albwm yn ei gyfanrwydd ddechrau’r haf.
Cerddor arall, Elis Derby, sy’n gyfrifol am greu’r ffilm ddogfen gyda chwmni cynhyrchu Darlun. Fel arfer, mae’r cwmni’n arbenigo mewn ffilmio fideos cerddoriaeth a sesiynau byw sy’n para tua 3-4 munud, felly mae ffilmiau byrion yn gam i gyfeiriad gwahanol iddynt.
Taith cymeriad ‘Gwilym’
Er mai dwy gân sy’n cael eu defnyddio, mae’r ffilm yn gynrychiolaeth o’r albwm â’i themâu sy’n cael ei amlygu o’u dewis o ganeuon. Y gyntaf oddi ar yr albwm, ‘dwi’n cychwyn tân’, a’r olaf i ddilyn, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ yn gweithio’n gelfydd i gwmpasu’r cyfan.
Mae’r ffilm yn dilyn taith ddwys a phwerus cymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo ddianc o gaethiwed llwm ei fyd o fewn pedair wal wen, at ryddid llydan yr awyr agored, a hynny drwy gyfrwng cerddoriaeth. Wrth i’r cymeriad gael ei gyflwyno i gerddoriaeth mae ei fywyd yn newid yn gyfan gwbl, a honno’n un haen yn unig i’r hyn rydym yn ei weld.
Ceir yn ogystal archwiliad o’n hunain a brwydrau mewnol a phŵer cerddoriaeth o fewn hynny ond hefyd pŵer cwmni neu eiriau eraill. Drwy gydol y ffilm fer dydyn ni ddim yn siŵr os mai ffrind yn estyn llaw yw’r cymeriad arall yntau’n ddrych neu’n ran neu lais arall ym meddwl ‘Gwilym’. Drwy gyfrwng y ddau gymeriad a’r berthynas rhyngddynt cawn archwiliad dyfnach o wrywdod a’r hawl i deimlo, a’r hawl i fregusrwydd.
Mae’r cyferbyniad trawiadol rhwng yr ystafell unlliw a gogoniant amryliw y tirwedd i’w weld hefyd yng nghymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo sylweddoli gwerth a phŵer y gerddoriaeth sy’n atgyfnerthu’r neges deimladwy y dylid ei gofio, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’.
Dyma’r ffilm fer: