Un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol y deuddeg mis diwethaf heb amheuaeth ydy Ffos Goch, sef prosiect cerddorol diweddaraf y cerddor profiadol, Stuart Estell.
Mae Ffos Goch yn ôl unwaith eto gyda mwy o gynnyrch newydd, a’i sengl gyntaf eleni, ‘Edrych Ymlaen’, sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Ionawr ar Recordiau Hwyrol.
Dechreuodd Ffos Goch fel rhan o benwythnos i ddathlu’r band chwedlonol Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr Pont Steffan, ym Mehefin 2022. Paratôdd Stuart set fer o ganeuon Datblygu a sylweddoli’n gyflym iawn nad oedd digon o ddeunydd gydag ef ar gyfer y perfformiad. Ei ateb oedd i ddechrau cyfansoddi caneuon eu hun yn y Gymraeg.
Mae gwreiddiau’r prosiect yn arwyddocaol wrth iddo ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ac mae’n diolch i un o aelodau Datblygu am ysbrydoli’r gân.
“I Pat Morgan mae’r diolch am y gân ’ma” eglura Stuart.
“Y llynedd, o’n i mewn bwyty yn Llambed yng nghwmni Pat cyn i ni neud bach o waith ffilmio ar gyfer rhaglen Curadur S4C lle perfformiais i’r gân ‘Cariad Ceredigion’.”
“O’n ni’n trafod sawl agwedd o’n hanesion teuluol, ynghyd â natur hunangofiannol geiriau David Edwards, a myfyriais i’n uchel nad yw’r mwyafrif o fy nghaneuon yn berthnasol i fi fy hunan fel unigolyn. Nid yn uniongyrchol. Yn hytrach na hynny, maen nhw fel arfer yn archwilio senarios.
“‘Falle bod hi’n amser i ti ddweud y gwirionedd,’ meddai Pat. Felly dyma fe. Y gwirionedd. Codi coelcerth. Llosgi pethau hanesyddol yn y tân. ‘Edrych Ymlaen’.”