Ffos Goch yn rhyddhau ail deyrnged i ffrind

Mae’r prosiect cerddorol Cymraeg o Birmingham, Ffos Goch, wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener 24 Mai.

‘Myfiaeth’ ydy enw’r trac Cymraeg diweddaraf gan brosiect y cerddor cynhyrchiol Stuart Estell.

Mae ‘Myfiaeth’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Siopa’ a ryddhawyd ddechrau mis Mai ac a oedd yn deyrnged i’w ffrind a’r bardd Brendan Higgins, neu ‘Big Bren’, a fu fawr ym mis Ionawr eleni.

Y sengl newydd ydy’r ail deyrnged i Brendan ac yn ôl Stuart bydd un sengl deyrnged arall i ddilyn sef ‘Mae Plentyn Wedi Marw’ fydd allan ar 21 Mehefin.