Fideo ‘Milkshek’ gan Kim Hon

Mae fideo newydd ar gyfer un o ganeuon y band Kim Hon wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C.

‘Milkshek’ ydy enw’r trac dan sylw – un o draciau albwm hunan-deitlog y band a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2023.

Mae aeloda’r band i gyd yn ymddangos yn y fideo, a Hedydd Ioan sy’n gyfrifol am y gwaith cyfarwyddo a chynhyrchu.