Mae HMS Morris wedi cyhoeddi fideo sesiwn newydd ohonynt yn perfformio’n fyw.
Fideo ydy hwn o sesiwn fyw o’r band yn perfformio yn lleoliad Cultvr Lab yng Nghaerdydd.
Cynhaliwyd y gig yno ar 13 Medi 2023 a hwn oedd gig lansio swyddogol eu halbwm diweddaraf, Dollar Lizard Money Zombie.
Mae’r gwaith ffilmio gan Ren Faulks ac On Par Productions.