Mae Lwp, S4C wedi cyhoeddi film fer arbennig iawn dan y teitl ‘Sut gân sydd yma yng Nghymru?’ i nodi Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror.
Mae’r ffilm yn cynnwys myfyrdod sydd yn cael ei berfformio gan Iwan Fôn ac Eddie Ladd ac yn plethu geiriau eiconig nifer o anthemau Cymreig.
Buddug Watcyn Roberts ydy awdur y darn, ac Aled Wyn Jones ydy Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr y ffilm.