Mae Lŵp, S4C wedi dechrau cyhoeddi fideos o berfformiadau artistiaid Cymraeg yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton.
Roedd Lŵp yn ran o bartneriaeth gyda Cymru Greadigol, Gorwelion (BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru) a Chlwb Ifor Bach, ar gyfer llwyfannu artistiaid o Gymru fel rhan o ddigwyddiad Showcase Cymru yn yr ŵyl.
Mae bellach modd gweld fideos o Mellt yn perfformio ‘Gwen Werth Mwy Na Bwled’, a hefyd Pys Melyn yn perfformio’r trac ‘Bolmynydd’ yn fyw yn yr ŵyl ar sianel YouTube Lŵp.