Mae Fleur de Lys wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 31 Mai.
‘Gan Ni Fod’ ydy enw’r trac newydd gan y band poblogaidd o Fôn ac mae allan ar label Recordiau Côsh.
Mae dros flwyddyn ers i ail albwm Fleur De Lys, ‘Fory ar ôl Heddiw’, weld golau dydd am y tro cyntaf. Ers hynny, mae’r band wedi mynd o nerth i nerth a bellach wedi datblygu i fod yn un o’r prif fandiau mewn nifer o wyliau dros Gymru.
Yn siŵr o blesio ffans hen a newydd, mae ‘Gad Ni Fod’ yn gweld y band yn mynd yn ôl at eu gwreiddiau cerddorol – yn tynnu ar eu riffs bachog a’u melodïau cofiadwy.
Bydd cyfle i weld y band yn chwarae eu hanthemau heintus, gan gynnwys y sengl newydd, yng Ngŵyl Cefni ar yr 8 Mehefin.
Mae ‘Gad Ni Fod’ yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru dros yr wythnos yma sy’n arwain at benwythnos Gŵyl Cefni.