Y canwr-gyfansoddwr o Stiniog, Gai Toms, ydy’r diweddaraf i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar.
Datgelwyd y newyddion i Gai yn fyw ar yr awyr ar raglen BBC Radio Cymru Rhys Mwyn ar nos Lun 12 Chwefror, y cyntaf o gyhoeddiadau Gwobrau’r Selar ar donfeddi’r orsaf genedlaethol yn ystod yr wythnos.
Roedd y newyddion yn amlwg yn dipyn o syndod i Gai, ac roedd yn brin o eiriau wrth i Rhys wneud y cyhoeddiad.
“Dwi’m yn teimlo’n ddigon hen i dderbyn y wobr, ond wow…diolch Y Selar” meddai’r cerddor fel ymateb cyntaf.
“Fyswn i’n hoffi diolch hefyd i bawb ar hyd y daith…Anweledig er enghraifft, heb Anweledig fyswn i’n nunlla masiwr. Labeli Crai, trefnwyr gigs, Radio Cymru, S4C ac ati, mae ’na ormod i ddiolch.
“Dwi’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth. Ma gwobra’…heb y barnu na’r cystadlu ynde…dwi’m yn or-hoff o wobra’, does ’na neb yn well na’i gilydd rili nagoes, ond ma cydnabyddiaeth yn neis. Fyswn i’n annog unrhyw artist ifanc i gredu, a cydio yn yr awen a dal ati i greu, a mynd amdani ynde.”
Artist sydd wedi arloesi
Tîm golygyddol Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol, ac mae’r enillydd bob amser yn rywun rydan ni’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, ac sy’n parhau i wneud hynny.
Ers y 1990au cynnar, mae Gai Toms wedi bod yn creu cerddoriaeth yn y Gymraeg, gan ddechrau gyda’i fand cyntaf, Anweledig, ym 1992. Datblygodd Anweledig i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru erbyn diwedd y ddegawd – poblogrwydd a’u gwelodd yn perfformio mewn degau o sioeau gorlawn a hynod o gofiadwy.
Erbyn cyfnod amlycaf Anweledig ar y brig, roedd Gai hefyd wedi dechrau prosiect unigol ac yn perfformio a chyfansoddi dan ei lysenw, Mim Twm Llai, ym 1997. Rhyddhawyd albwm cyntaf Mim Twm Llai, O’r Sbensh, ar label Crai yn 2002 a dilynodd yr ardderchog Straeon y Cymdogion yn 2005 – y record gysyniadol gyntaf ganddo ond nid yr olaf. Daeth un albwm arall dan yr enw Mim Twm Llai sef Yr Eira Mawr yn 2006.
Penderfynodd Gai droi at ganu dan ei enw ei hun wedi hynny a glaniodd ei albwm cyntaf fel ‘Gai Toms’ ar ffurf Rhwng y Llygru a’r Glasu yn 2008. Dyma albwm cysyniadol arall, un eco-gysyniadol y tro hwn, gan dorri tir newydd yn y Gymraeg wrth greu record gyda llwyth o offerynnau wedi eu creu o sbwriel. Roedd cyfweliad gyda Gai am yr albwm yn rhifyn Y Selar Awst 2008.
Daeth albwm cofiadwy arall yn 2012, sef Bethel – albwm ddwbl oedd wedi’i recordio yn festri hen gapel o’r un enw roedd Gai yn y broses o’i droi’n stiwdio. Albwm Saesneg oedd ei gynnig nesaf, sef The Wild, The Tame and The Feral yn 2015, cyn iddo ryddhau Gwalia yn 2017.
Albwm cysyniadol arall ddaeth yn 2019 wrth i Gai bortreadu bywyd y reslwr enwog Orig Williams ar y record hir Orig. Law yn llaw a hyn cafwyd taith theatrau gofiadwy oedd yn llawer mwy na gig arferol! Esiampl arall o’r cerddor yn arloesi trwy blethu cerddoriaeth a theatr.
Rhyddhawyd chweched albwm Gai Toms yng Ngorffennaf 2023, sef Baiaia! Mae albwm arall a ysgrifennwyd yn ystod y cyfnod clo, Y Filltir Gron, ar y ffordd hefyd gyda’r traciau ‘Pobl dda y tir’ a ‘Coliseum’ eisoes wedi’i rhyddhau.
Mae Gai hefyd wedi perfformio a rhyddhau cerddoriaeth gyda’r band Brython Shag, gan weld aduniad gyda’i hen gyfaill o Anweledig, Ceri Cunnington.
Canwr-gyfansoddwr pwysicaf ei genhedlaeth
Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar, roedd Gai Toms yn ddewis amlwg ar gyfer derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig.
“O ystyried y criteria bras rydym wedi gosod ar gyfer y wobr hon, does dim amheuaeth fod Gai Toms yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth” meddai Owain Schiavone.
“Ers dros dri degawd bellach mae Gai yn o gerddorion amlycaf Cymru. Gyda’i ffrindiau gorau, fe ddatblygodd Anweledig, i fod yn fand mwyaf y sin Gymraeg ar ddiwedd y 90au, ond mae’n deg dweud mai ar ôl hynny y daeth gwaith mwyaf arwyddocaol Gai i’r amlwg. Dwi’n grediniol ei fod yn un o ganwyr-gyfansoddwyr pwysicaf ei genhedlaeth yn yr iaith Gymraeg, os nad y pwysicaf oll.
“Yr hyn sy’n taro rhywun ydy ei ddewrder cerddorol, a’i barodrwydd i arbrofi a mentro. Mae rhai o’i recordiau hir yn arloesol yn y Gymraeg yn enwedig efallai Rhwng y Llygru a’r Glasu ac Orig – does neb wedi creu rhywbeth tebyg i’r rhain yn y Gymraeg. Bydd llawer o’i ganeuon yn glasuron mewn blynyddoedd i ddod, ond mae ei gerddoriaeth yn fwy na dim ond caneuon – maen sylwebaeth graff ar wleidyddiaeth, cymuned, hanes, yr amgylchedd a’r byd.”
Dyma un o’i glasuron mwyaf, o’r albwm Straeon y Cymdogion gan Mim Twm Llai, ‘Cwmorthin’: