Georgia Ruth yn rhyddhau ‘Chemistry’

Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau sengl arall oddi-ar ei halbwm newydd, ‘Cool Head’. 

‘Chemistry’ ydy enw’r trac diweddaraf i ollwng gan yr artist o Aberystwyth, a dyma’r drydedd sengl i ymddangos oddi-ar ei halbwm nesaf. 

Bydd ‘Cool Head’ yn cael ei ryddhau ar label Bubblewrap Collective ar 21 Mehefin, ac mae’r trac yn dilyn y senglau ‘Duw Neu Magic’ a ‘Driving Dreams’ fel tameidiau i gynnig blas o’r record hir. 

Ceir ymddangosiad gan westai arbennig iawn ar y sengl ddiweddaraf sef yr  amryddawn Euros Childs (Gorky Zygotic Mynci) ac mae ‘Chemistry’ allan nawr yn dilyn ei sbin cyntaf ar BBC 6 Music gan Huw Stephens wythnos diwethaf. 

“Mae’n gân am ildio i rywbeth – o orfod derbyn bod angen rhyw fath o help cemegol weithiau i ddod o hyd i’r golau a’r dyddiau gwell” meddai Georgia. 

“Ond mae rhywbeth arbennig am hynny hefyd. Mae’n debyg mai hon yw’r gân fwyaf didwyll i mi erioed ei hysgrifennu.”

‘Cool Head’ fydd pedwerydd albwm Georgia Ruth ac fe gafodd ei hysgrifennu yn y flwyddyn yn dilyn salwch ei gwr, Iwan. Mae ‘Cool Head’, ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml, yn gasgliad o ganeuon sy’n plethu dylanwadau sy’n ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au. 

Y newyddion pellach ydy y bydd nofel gyntaf Georgia, ‘Tell Me Who I Am’, yn cael ei chyhoeddi law yn llaw â’r albwm.