Gig elusennol ‘Dros Palesteina’

Bydd Steve Eaves yn perfformio mewn gig arbennig yng Nghaernarfon ar 27 Ionawr er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian dros bobl sy’n dioddef ym Mhalesteina.

Cynhelir y gig yn yr Hen Lys yng Nghaernarfon, gyda Gai Toms hefyd y perfformio a chefnogaeth bellach i’w cadarnhau.

Mae tocynnau’n costio £12 a bydd yr arian sy’n cael ei godi’n mynd tuag at achos cymorth meddygol Palesteiniaid.

Gŵyl Arall sy’n gyfrifol am drefnu’r gig ac mae modd prynu tocynnau ar eu gwefan nawr