Gig pobl ifanc…wedi’i drefnu gan bobl ifanc, yn Aberystwyth

Bydd gig sy’n cael ei drefnu’n arbennig i bobl ifanc yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth nos Wener yma, 15 Mawrth gyda Tara Bandito  a Dadleoli yn perfformio.

‘Dim byd yn anarferol am hynny’ fe’ch clywaf yn dweud. Wel oes, a dweud y gwir, gan mai criw o bobl ifanc o Aberystwyth sydd wedi mynd ati i wneud holl waith trefnu’r gig fel rhan o Ŵyl Agor Drysau.

Mae’r holl gig, o ddewis a chysylltu â’r bandiau i hyrwyddo a dylunio posteri wedi ei drefnu gan aelodau aelwyd Urdd newydd Aelwyd Trefechan.

Daeth y cyfle i drefnu’r gig trwy gynnig gan Ŵyl Agor Drysau ac Arad Goch oedd wedi cael arian i helpu i dalu am artistiaid, a neidiodd yr aelodau ar y cyfle i fod yn rhan ohono.

Dros y mis diwethaf mae aelodau’r Aelwyd wedi bod yn pleidleisio dros yr artistiaid ddylai berfformio, cysylltu gyda bandiau a dylunio’r posteri.

Mae pawb nawr yn brysur yn hyrwyddo a gwerthu tocynnau gan obeithio denu cynulleidfa dda i’r ddau fand sydd wedi bod yn y penawdau’n ddiweddar ar ôl dod i’r brig mewn categorïau Gwobrau Selar – Tara Bandito yn ennill Gwobr 2023 a Dadleoli yn ennill Band Newydd Gorau ynghyd a’r Record Fer Orau.

Mae Megan Griffiths, Eira MacDonald a Nel Dafis yn dri o’r criw fu wrthi’n helpu gyda’r gwaith trefnu. 

“Roedd hi’n brofiad da trefnu’r gig a dysgais lawer am sut i drefnu digwyddiadau yn effeithiol” meddai Megan. 

Bu Eira wrthi’n helpu gyda’r ochr celf ar gyfer y gig, a’r gwaith o greu’r poster yn benodol.

“Wrth greu’r poster sylweddolais faint o waith sy’n mynd mewn i ddewis ffontiau a lliwiau deniadol” meddai Eira am y profiad.

“Rydw i wir yn gyffrous i weld Tara Bandito yn canu, a gweld ein holl waith yn dod at ei gilydd!” ychwanegodd Nel Dafis.

Mae’r gig yn un di-alcohol ac wedi ei anelu at bobl ifanc oedran uwchradd yn bennaf gyda thocynnau ar werth am £5. Mae modd cael gafael ar rhain trwy’r ffyrdd canlynol:

  • neges breifat i Instagram @aelwydtrefechan
  • ebost at aelwydtrefechan@gmail.com
  • aelodau Aelwyd Trefechan yn yr ysgol
  • cysylltu ag Arad Goch