Gruff Rhys i deithio gyda Bill Ryder-Jones

Mae Gruff Rhys wedi datgelu y bydd yn teithio ar y cyd gyda’r cerddor Bill Ryder-Jones yn hwyrach yn y flwyddyn eleni.

Daeth Ryder-Jones i’r amlwg gyntaf fel prif gitarydd y band llwyddiannus The Coral. Gadawodd y band yn 2008 ac ers 2009 mae wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol, gan gynnwys ei albwm diweddaraf ‘Iechyd Da’ a ryddhawyd ym mis Ionawr eleni.

Er ei fod wedi ei eni a’i fagu ar Lannau Merswy, mae teulu Ryder-Jones ar ochr ei dad yn Gymry ac mae hefyd wedi siarad yn y gorffennol am ddylanwad Gorkys Zygotic Mynci a Super Furry Animals ar ei gerddoriaeth.

Yn wir, fe ddatgelodd Ryder-Jones mewn cyfweliad gyda chylchgrawn DIY ei fod wedi holi barn Gruff Rhys am y syniad o roi enw Cymraeg ar ei albwm diweddaraf, a chael ymateb cadarnhaol. Dywed ei fod hefyd yn dysgu Cymraeg ers peth amser. 

Bydd y ddau yn teithio gyda’i gilydd ddiwedd y flwyddyn gyda chwech gig i gyd fydd yn ei gweld yn ymweld â lleoliadau yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Mae modd archebu tocynnau nawr trwy wefan Gruff Rhys

Dyddiadau’r Daith: 

18 Tachwedd – Vicar Street, Dulun

26 Tachwedd – Neuadd y Dref Birmingham

27 Tachwedd – The Glasshouse, Gateshead

28 Tachwedd – Philharmonic Hall, Lerpwl

29 Tachwedd – Memo, Y Barri

01 Rhagfyr – Albert Hall, Manceinion

‘Nos Da’ ydy’r trac sy’n cloi albwm diweddaraf Bill Ryder-Jones: