Gwobr Goffa Richard a Wyn Fflach

Ar ôl sefydlu’r wobr llynedd, mae trefnwyr Gŵyl Fel ‘na Mai yng Nghrymych wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal cystadleuaeth eto eleni i ennill gwobr arbennig er cof am y brodyr Richard a Wyn Jones o’r band Ail Symudiad. 

Cystadleuaeth flynyddol i fandiau ac artistiaid ifanc o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion ydy Gwobr Goffa Richard ac Wyn. Y bwriad ydy rhoi hwb  i yrfa gerddorol yr artistiaid ifanc sy’n cystadlu, ac sy’n fuddugol yn y gystadleuaeth.

Roedd ymateb arbennig i’r gystadleuaeth llynedd wrth i Band Dros Dro, sef grŵp ifanc o Sir Gâr, gipio’r teitl am y tro cyntaf.  

Cynhelir y gystadleuaeth eleni yn Neuadd Hermon ar nos Wener 9 Chwefror gyda Ffion Emyr yn cyflwyno. Bydd Mei Gwynedd a’r Band hefyd yn perfformio ar y noson, yn ogystal â’r bandiau sy’n cystadlu wrth gwrs. 

‘Tlws Her Gorffa Richard a Wyn’ ydy’r brif wobr a hynny er cof am y ddau frawd oedd yn aelodau o’r band o Aberteifi, Ail Symudiad, ac oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg label Recordiau Fflach.

Bu farw Wyn ym mis Mehefin 2021 wedi cyfnod o salwch, cyn i’w frawd Richard yntau farw’n sydyn gwta fis yn ddiweddarach. Dros y degawdau roedd eu cyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig yn y De Orllewin, yn amhrisiadwy. 

Yn ogystal â’r tlws, bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a chyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai 2024. 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fandiau neu artistiaid ifanc a rhaid i berfformiadau fod yn y Gymraeg. Bydd disgwyl iddynt wneud set o ddim mwy na chwarter awr ar y noson. Does dim rhaid i’r caneuon fod yn rai gwreiddiol, ond gorau oll os ydyn nhw yn ôl y trefnwyr.  

Beirniaid y gystadleuaeth fydd Dafydd ac Osian Jones, sef meibion Richard, ynghyd â Mei Gwynedd a Cleif Harpood.